2012 Rhif 466 (Cy.77)

ardrethu a phrisio, Cymru

Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Taliadau Gohiriedig) (Cymru) 2012

NODYN ESBONIADOL

 (Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestrau Lleol) 1989 (O.S.1989/1058) (“y Rheoliadau Rhestrau Lleol”) a'r Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestrau Canolog) 1989 (O.S.1989/2260) (“y Rheoliadau Rhestru Canolog”) i wneud darpariaeth ar gyfer taliadau gohiriedig. Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn gwneud addasiadau canlyniadol i Reoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 1993.

Mae'r Rheoliadau Rhestrau Lleol a'r Rheoliadau Rhestrau Canolog yn darparu ar gyfer diwallu'r rhwymedigaeth ardrethi flynyddol mewn rhandaliadau. Hyd 2009 yr oedd y rhandaliadau yn daladwy yn y flwyddyn ariannol yr oedd y galwad am dalu yn berthynol iddi. Yr oedd Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Taliadau Gohiriedig) (Cymru) 2009 (O.S.2009/2154 (Cy.179)) (“Rheoliadau 2009”) yn gwneud darpariaeth arbennig ynglŷn â chasglu ardrethi annomestig a oedd yn daladwy mewn cysylltiad â'r flwyddyn ariannol a oedd yn cychwyn ar 1 Ebrill 2009.

Mewnosododd Rheoliadau 2009 Atodlen 1D newydd yn y Rheoliadau Rhestrau Lleol ac Atodlen 1B newydd yn y Rheoliadau Rhestrau Canolog i ddarparu y byddai trethdalwr a oedd yn ddarostyngedig i ardrethi annomestig mewn cysylltiad â blwyddyn ariannol 2009/10, ac yn bodloni amodau penodol, yn cael gohirio talu cyfran benodedig o'r rhwymedigaeth honno tan y blynyddoedd ariannol a oedd yn cychwyn ar 1 Ebrill 2010 ac 1 Ebrill 2011.

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth bellach mewn perthynas â thaliadau gohiriedig drwy ddiwygio'r Rheoliadau Rhestrau Lleol a’r Rheoliadau Rhestrau Canolog er mwyn—

—   rhoi ar gael yr un cyfleuster ar gyfer taliadau gohiriedig mewn cysylltiad â’r flwyddyn ariannol sy'n cychwyn ar 1 Ebrill 2012; a

—   gwneud y darpariaethau ar gyfer taliadau gohiriedig yn fwy cyffredinol fel bod modd, os yw’r cyfleuster taliadau gohiriedig i’w roi ar gael ym mlynyddoedd ariannol y dyfodol, i hynny gael ei wneud heb yr angen i ddiwygio'r Rheoliadau Rhestrau Lleol a’r Rheoliadau Rhestrau Canolog yn gyfan gwbl.

Mae rheoliad 8 yn addasu rheoliad 6 o Reoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992 O.S.1992/3238), gan alluogi awdurdodau bilio i ailgyfrifo eu cyfraniadau ardrethu annomestig oherwydd bod trethdalwyr yn gohirio talu ardrethi o dan y Rheoliadau hyn.

Mae rheoliad 9 o'r Rheoliadau hyn yn addasu'r diffiniad o “relevant year” yn rheoliad 2 o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 1993 (O.S.1993/252).

Cywirwyd rhai mân wallau teipograffyddol.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd hi'n angenrheidiol gwneud asesiad effaith rheoleiddiol o ran costau a manteision tebygol cydymffurfio â'r Rheoliadau hyn.


2012 Rhif 466 Cy. 77)

ardrethu a phrisio, cymru

Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Taliadau Gohiriedig) (Cymru) 2012

Gwnaed                             20 Chwefror 2012

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       23 Chwefror 2012

Yn dod i rym                        16 Mawrth 2012

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 60, 62, 143(1) a (2) a 146(6) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988([1]) a pharagraff 6(5) a (6) o Atodlen 8 a pharagraffau 1 i 4 o Atodlen 9 i'r Ddeddf honno ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.(1)(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Taliadau Gohiriedig) (Cymru) 2012 a deuant i rym ar 16 Mawrth 2012.

(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestrau Lleol) 1989

2. Mae Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestrau Lleol) 1989([2]) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

3. Yn lle rheoliad 7C (taliadau gohiriedig: darpariaeth arbennig mewn perthynas â Chymru ar gyfer y blynyddoedd ariannol sy'n cychwyn ar 1 Ebrill 2009, 2010 a 2011) rhodder—

Deferred payments – special provision in relation to Wales

7C.—(1) This regulation makes provision for deferred payments in relation to the financial years beginning on—

(a) 1 April 2009, and

(b) 1 April 2012.

(2) In this regulation and for the purposes of Schedule 1D—

(a)   each of the financial years specified in paragraph (1) is called the “specified year”;

(b) in respect of the financial year beginning on 1 April 2009, the specified percentage is 3;

(c)   in respect of the financial year beginning on 1 April 2012, the specified percentage is 3.36.

(3) Schedule 1D has effect in relation to each specified year.”.

4.(1)(1) Mae Atodlen 1D wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn y pennawd hepgorer “for the financial years beginning on 1 April 2009, 2010 and 2011”.

(3) Ym mharagraff 1—

(a)     yn is-baragraff (1)(a)(i) yn lle “the financial year beginning on 1 April 2009” rhodder “the specified year”;

(b)     yn is-baragraff (1)(a)(ii) yn lle “the financial year beginning on 1 April 2009” rhodder “the specified year”;

(c)     yn is-baragraff (1)(b) yn lle “the financial year beginning on 1 April 2009 no later than 31 December 2009” rhodder “the specified year no later than 31 December in that year”; ac

(ch)  yn is-baragraff (4)—

                       (i)  yn y diffiniad o “deferral notice” yn lle “paragraph 2” rhodder “paragraph 5”;

                      (ii)  mewnosoder yn y man priodol  “ “first deferred payment year” means the financial year immediately following the specified year;”;

                     (iii)  yn y diffiniad o “remaining amount” yn lle “paragraph 4; and”  rhodder “paragraph 2”;

                     (iv)  mewnosoder yn y man priodol “ “second deferred payment year” means the financial year immediately following the first deferred payment year; and ”; a

                      (v)  mewnosoder yn y man priodol “ “the specified percentage” means, in respect of a specified year, the percentage specified in regulation 7C(2)”.

(4) Ym mharagraff 3 yn lle “3 per cent” rhodder “the specified percentage” (ar y ddau achlysur).

(5) Ym mharagraff 5—

(a)     yn is-baragraff (1)(c) yn lle “the financial year beginning on 1 April 2010” rhodder “the first deferred payment year”; a

(b)     yn is-baragraff (1)(d) yn lle “the financial year beginning on 1 April 2011” rhodder “the second deferred payment year”.

(6) Ym mharagraff 9—  

(a)     yn y pennawd yn lle “the financial year beginning on 1 April 2009” rhodder “the specified year”;

(b)     yn is-baragraff (1)(b) yn lle “the financial year beginning on 1 April 2009” rhodder “the specified year”;

(c)     yn is-baragraff (2)(a) yn lle “the financial year beginning on 1 April 2009” rhodder “the specified year”;

   (ch) yn is-baragraff (2)(d) yn lle “the financial year beginning on 1 April 2009” rhodder “the specified year”;

(d)     yn is-baragraff (2)(e)(iii) yn lle “the financial year beginning on 1 April 2010” rhodder “the first deferred payment year”; ac

 (dd) yn is-baragraff (2)(e)(iv) yn lle “the financial year beginning on 1 April 2011” rhodder “the second deferred payment year”.

(7) Ym mharagraff 10—

(a)     yn is-baragraff (1) yn lle “the financial years beginning on 1 April 2010 and 1 April 2011” rhodder “the first and second deferred payment years”;

(b)     yn is-baragraff (2) yn lle “the financial year beginning on 1 April 2010 or 1 April 2011” rhodder “the first or second deferred payment year”;

(c)     yn is-baragraff (3) yn lle “financial year beginning on 1 April 2010 or 1 April 2011” rhodder “first or second deferred payment year”;

 (ch) yn is-baragraff (4)—

                             (i)    yn lle “2010 or 1 April 2011” rhodder “in the first or second deferred payment year”;

                           (ii)    ym mharagraff (c) yn lle “the financial year beginning on 1 April 2010” rhodder “the first deferred payment year”; a

                         (iii)    ym mharagraff (c) yn lle “the financial year beginning on 1 April 2011” rhodder “the second deferred payment year”; a

(d)     yn is-baragraff (5)(b) yn lle “the financial year beginning on 1 April 2010 or 1 April 2011” rhodder “the first or second deferred payment year”.

(8) Ym mharagraff 11, ar y dechrau, hepgorer “(1)”.

(9) Ym mharagraff 12—

(a)     yn y pennawd yn lle “2010/11 or 2011/12” rhodder “the first or second deferred payment year”;

(b)     yn is-baragraff (1) yn lle “the financial year beginning on 1 April 2010 or 1 April 2011” rhodder “the first or second deferred payment year”; ac

(c)     yn is-baragraff (2), yn y paragraff 6(3) a amnewidiwyd yn Atodlen 1, yn lle  “the financial year beginning on 1 April 2009” rhodder “the specified year”.

(10) Ym mharagraff 13—

(a)     yn y pennawd yn lle “2010/11 or 2011/12” rhodder “the first or second deferred payment year”;

(b)     yn is-baragraff (2)(b)(iii)—

                             (i)    yn lle “the financial year beginning on 1 April 2010” rhodder “the first deferred payment year”; a

                           (ii)    yn lle “the financial year beginning on 1 April 2011” rhodder “the second deferred payment year”; ac

(c)     yn is-baragraff (3) yn lle “the financial year beginning on 1 April 2009” rhodder “the specified year” .

(11) Ym mharagraff 14—

(a)     ar y dechrau hepgorer “(1)”;

(b)     yn lle “financial years beginning on 1 April 2010 or 1 April 2011” rhodder “first or second deferred payment years”; ac

(c)     yn Rheoliad 4 sy'n cael effaith yn rhinwedd paragraff 14—

                             (i)    yn is-baragraff (3) yn lle “financial year beginning on 1 April 2010 or 1 April 2011” rhodder “first or second deferred payment year”; a

                           (ii)    yn is-baragraff (3) yn lle “the financial year beginning on 1 April 2009” rhodder “the specified year”.

Diwygio Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestrau Canolog) 1989

5.(1)(1) Mae Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestrau Canolog) 1989 ([3]) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

6. Yn lle rheoliad 7B (taliadau gohiriedig: darpariaeth arbennig mewn perthynas â Chymru ar gyfer y blynyddoedd ariannol sy'n cychwyn ar 1 Ebrill 2009, 2010 a 2011) rhodder—

Deferred payments – special provision in relation to Wales

7B.—(1) This regulation makes provision for deferred payments in relation to the financial years beginning on—

(a)   1 April 2009, and

(b)  1 April 2012.

(2) In this regulation and for the purposes of Schedule 1B—

(a)   each of the financial years specified in paragraph (1) is called the “specified year”;

(b)  in respect of the financial year beginning on 1 April 2009, the specified percentage is 3;

(c)   in respect of the financial year beginning on 1 April 2012, the specified percentage is 3.36.

 

(3) Schedule 1B has effect in relation to each specified year.”.

7.(1)(1) Mae Atodlen 1B wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn y pennawd hepgorer “for the financial years beginning on 1 April 2009, 2010 and 2011”.

(3) Ym mharagraff 1—

(a)     yn is-baragraff (1)(a)(i) yn lle “the financial year beginning on 1 April 2009” rhodder “the specified year”;

(b)     yn is-baragraff (1)(a)(ii) yn lle “the financial year beginning on 1 April 2009” rhodder “the specified year”;

(c)     yn is-baragraff (1)(b) yn lle “the financial year beginning on 1 April 2009 no later than 31 December 2009” rhodder “the specified year no later than 31 December in that year”; ac

 (ch) yn is-baragraff (4)—

                             (i)    mewnosoder yn y man priodol ““first deferred payment year” means the financial year immediately following the specified year;”;

                           (ii)    mewnosoder yn y man priodol ““second deferred payment year” means the financial year immediately following the first deferred payment year; and ”; a

                         (iii)    mewnosoder yn y man priodol ““the specified percentage” means, in respect of a specified year, the percentage specified in regulation 7B(2)”.

(4) Ym mharagraff 3 yn lle “3 per cent” rhodder “the specified percentage”.

(5) Ym mharagraff 5—

(a)     yn is-baragraff (1)(c) yn lle “the financial year beginning on 1 April 2010” rhodder “the first deferred payment year”; a

(b)     yn is-baragraff (1)(d) yn lle “the financial year beginning on 1 April 2011” rhodder “the second deferred payment year”.

(6) Ym mharagraff 9—

(a)     yn y pennawd yn lle “the financial year beginning on 1 April 2009” rhodder “the specified year”;

(b)     yn is-baragraff (1)(b) yn lle “the financial year beginning on 1 April 2009” rhodder “the specified year”;

(c)     yn is-baragraff (2)(a) yn lle “the financial year beginning on 1 April 2009” rhodder “the specified year”;

 (ch) yn is-baragraff (2)(d) yn lle “the financial year beginning on 1 April 2009” rhodder “the specified year”;

(d)     yn is-baragraff (2)(e)(iii) yn lle “the financial year beginning on 1 April 2010” rhodder “the first deferred payment year”; ac

 (dd) yn is-baragraff (2)(e)(iv) yn lle “the financial year beginning on 1 April 2011” rhodder “the second deferred payment year”.

(7) Ym mharagraff 10—

(a)     yn is-baragraff (1) yn lle “the financial years beginning on 1 April 2010 and 1 April 2011” rhodder “the first and second deferred payment years”;

(b)     yn is-baragraff (2) yn lle “the financial year beginning on 1 April 2010 or 1 April 2011” rhodder “the first or second deferred payment year”;

(c)     yn is-baragraff (3) yn lle “financial year beginning on 1 April 2010 or 1 April 2011” rhodder “first or second deferred payment year”;

 (ch) yn is-baragraff (4)—

                             (i)    yn lle “2010 or 1 April 2011” rhodder “in the first or second deferred payment year”;

                           (ii)    ym mharagraff (c) yn lle “the financial year beginning on 1 April 2010” rhodder “the first deferred payment year”; a

                         (iii)    ym mharagraff (c) yn lle “the financial year beginning on 1 April 2011” rhodder “the second deferred payment year”; a

(d)     yn is-baragraff (5)(b) yn lle “the financial year beginning on 1 April 2010 or 1 April 2011” rhodder “the first or second deferred payment year”.

(8) Ym mharagraff 11, ar y dechrau, hepgorer “(1)”.

(9) Ym mharagraff 12—

(a)     yn y pennawd yn lle “2010/11 or 2011/12” rhodder “the first or second deferred payment year”;

(b)     yn is-baragraff (1) yn lle “the financial year beginning on 1 April 2010 or 1 April 2011” rhodder “the first or second deferred payment year”; ac

(c)     yn is-baragraff (2), yn y paragraff 6(3) a amnewidiwyd yn Atodlen 1, yn lle  “the financial year beginning on 1 April 2009” rhodder “the specified year”.

(10) Ym mharagraff 13—

(a)     yn y pennawd yn lle “2010/11 or 2011/12” rhodder “the first or second deferred payment year”;

(b)     yn is-baragraff (2)(b)(iii)—

                             (i)    yn lle “the financial year beginning on 1 April 2010” rhodder “the first deferred payment year”; a

                           (ii)    yn lle “the financial year beginning on 1 April 2011” rhodder “the second deferred payment year”; ac

(c)     yn is-baragraff (3) yn lle “the financial year beginning on 1 April 2009” rhodder “the specified year”.

(11) Ym mharagraff 14—

(a)     ar y dechrau hepgorer “(1)”;

(b)     yn lle “financial years beginning on 1 April 2010 or 1 April 2011” rhodder “first or second deferred payment years”;  ac

(c)     yn Rheoliad 4 sy'n cael effaith yn rhinwedd paragraff 14—

                             (i)    yn is-baragraff (3) yn lle “financial year beginning on 1 April 2010 or 1 April 2011” rhodder “first or second deferred payment year”; a

                           (ii)    yn is-baragraff (3) yn lle “the financial year beginning on 1 April 2009” rhodder “the specified year”.

Addasu Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992

8. O ran blwyddyn sydd yn flwyddyn benodedig at ddibenion Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestrau Lleol) 1989 neu Reoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestrau Canolog) 1989, mae rheoliad 6 (ail-gyfrifo symiau dros dro) o Reoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992 ([4]) yn cael effaith fel petai paragraffau (2)(b) a (4) wedi eu hepgor.

Addasu Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 1993

9. O ran y blynyddoedd hynny sydd yn flynyddoedd cyntaf ac yn ail flynyddoedd taliadau gohiriedig at ddibenion Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestrau Lleol) 1989, mae Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 1993([5]) yn gymwys fel petai’r canlynol wedi ei roi yn lle’r diffiniad o “the relevant year” yn rheoliad 2 (dehongli)—

the relevant year”, in relation to a demand notice, means the financial year to which the demand for payment made by the notice relates; but where, pursuant to regulation 4 (the requirement for demand notices) of the Collection Regulations (as modified by the Non-Domestic Rating (Deferred Payments) (Wales) Regulations 2012), the notice relates to more than one chargeable financial year “the relevant year” means the first or second deferred payment year (as the case may be)”.

Dirymu

10. Mae rheoliadau  4 (addasu Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 1993)  a 5 (addasu Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992) o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Taliadau Gohiriedig) (Cymru) 2009([6]) wedi eu dirymu.

 

 

 

 

Carl Sargeant

 

Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

 

 

20 Chwefror 2012

 



([1])           1988 p.41. Diwygiwyd paragraffau 1 a 3 o Atodlen 9 yn rhagolygol gan Atodlen 13 i Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodi 2007 (p.15). Diwygiwyd paragraff 2 gan baragraffau 1, 44 a 79 o Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p.42) a Rhan 2 o Atodlen 12 iddi. Diwygiwyd paragraffau 2, 3 a 4 gan baragraff 87 o Atodlen 13 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (p.14). Breiniwyd y pwerau hyn bellach yng Ngweinidogion Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru. Trosglwyddwyd hwy o’r blaen i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32), fe'u trosglwyddwyd i Weinidogion Cymru.

([2])           O.S. 1989/1058 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2009/2154 (Cy.179). Mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

([3])           O.S. 1989/2260 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2009/2154 (Cy.179). Mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

([4])           O.S. 1992/3238 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1994/1742 a 3125. Mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

([5])           O.S. 1993/252, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

([6])           O.S. 2009/2154 (Cy.179).